Lefel: Uwch Gyfrannol a Safon Uwch
Bwrdd Arholi: CBAC
Pam astudio Addysg Gorfforol?
Mae llwyddiant Safon Uwch yn hanfodol bwysig os ydych am barhau ag astudiaeth bellach mewn Addysg Gorfforol neu faes fel seicoleg, gwyddoniaeth neu hyfforddi.
Gofynion Mynediad
Dylech lwyddo i ennill gradd C neu’n uwch mewn Addysg Gorfforol ar lefel TGAU.
Beth yw cynnwys y cwrs?
Bwriad y cwrs yw eich annog i:
- ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth hanfodol o gysyniadau addysg gorfforol a’r sgiliau sydd eu hangen er mwyn eu defnyddio mewn sefyllfaoedd newydd a newidiol
- ddatblygu dealltwriaeth o’r cysylltiad rhwng theori ac arbrofi
- fod yn ymwybodol o’r ffyrdd y mae datblygiadau mewn technoleg gwybodaeth ac offer yn cael eu defnyddio ym maes chwaraeon
- werthfawrogi cyfraniadau Addysg Gorfforol i’r gymdeithas
- ddod â gwybodaeth at ei gilydd am ffyrdd y mae gwahanol feysydd chwaraeon yn cysylltu â’i gilydd
- gynnal a datblygu eich mwynhad o Addysg Gorfforol a’ch diddordeb yn y pwnc
Bydd y gwersi yn cynnwys cyfnodau dysgu a thrafodaeth dosbarth cyfan/rhannol a gwaith ymarferol ynghyd â chyfnodau tiwtorial unigol, cyflwyniadau gan ddisgyblion a gwaith darllen ac astudio unigol. Cewch eich hannog i ddefnyddio amrediad eang o adnoddau gan gynnwys gwerslyfrau’r ysgol, cylchgronnau a meddalwedd perthnasol yn ogystal â’r cyfoeth o wybodaeth sydd i’w gael ar y rhyngrwyd.
Beth yw strwythur y cwrs?
UG (2 uned)
PE 1
Gwella Perfformiad mewn Addysg GorfforolAsesu Mewnol - Perfformiad ymarferol (30% o'r UG)
Proffil Perfformiad Personol (10% o'r UG)
Hyfforddi neu Ddyfarnu (10% o'r UG)
PE 2
Dulliau Bywiog o Fyw ac Addysg Gorfforol
1awr 45 munud Papur Ysgrifenedig (50% o’r UG)
Safon Uwch (yr uchod ynghyd â 2 Uned ychwanegol)
PE 3
(25%) Asesu Mewnol
Mireinio Perfformiad mewn Addysg Gorfforol
Asesu Mewnol - Perfformiad Ymarferol (17.5%)
Ymchwil Ymchwiliol (7.5%)
PE 4
Perfformiad, Darpariaeth a Chyfranogiad mewn Addysg Gorfforol
(25%) Papur Ysgrifenedig 2 awr
Gyrfaoedd Posib
Bydd Safon UG/U yn fanteisiol iawn i’r rhai ohonoch sydd â diddordeb mewn unrhyw faes addysg gorfforol e.e. ffisiotherapydd, maethion neu hyfforddiant biomecaneg. Mae’r amrediad o sgiliau byddwch yn datblygu drwy ddilyn y cwrs yma yn rhai fedrwch drosglwyddo i bob math o swyddi ac mae canran uchel o bobl â chymwysterau mewn Addysg Gorfforol yn symud ymlaen i weithio fel rheolydd hamdden, newyddiadurwr chwaraeon, yr heddlu neu’r gwasanaeth tân.