Adeiladwaith

BTEC Lefel 2 Tystysgrif Estynedig

Bwrdd Arholi: EDEXCEL

Adeiladu Llwybr i’ch Dyfodol!!

Cydnabyddir bod cyrsiau Adeiladwaith Coleg y Barri gyda’r gorau yn y wlad.
Cynigia’r cyrsiau gyfle i ddysgwyr ennill profiad ymarferol o fewn amgylchedd y gweithdy adeiladwaith, lle mae modd iddynt ddatblygu amrywiaeth o sgiliau llaw.
Mae’r sgiliau a ddatblygir  yn berthnasol i gyrsiau astudio dilynol a chyflogaeth o fewn y diwydiant adeiladwaith mewn amrywiaeth o lwybrau crefft, prentisiaeth a thechnegol. Cynigia’r cwrs flas o waith bric a gwaith pren. Mae cyrsiau lefel uwch yn caniatàu i ddisgyblion arbenigo mewn un o’r meysydd yma.
Mae’r cwrs yma yn arbennig o addas ar gyfer disgyblion sydd yn astudio amrediad o gyrsiau academaidd ac sy’n dyheu am rôl dechnegol yn y diwydiant adeiladwaith megis tirfesurydd, peirianneg sifil a goruwchwyliaeth safle adeiladwaith.

Am resymau diogelwch mae angen dillad amddiffynnol ar gyfer y cwrs – esgidiau diogelwch (steel toe cap) ac oferôls.        Cost tua £40

Y cyrsiau sydd ar gael:-


BTEC Tystysgrif Estynedig Lefel 2 mewn Adeiladwaith – Gwobr Crefft Unigol (Gwaith Pren neu Gwaith Bric)

Bydd y cwrs yn digwydd un prynhawn pob wythnos

Bydd pob disgybl sydd yn astudio cwrs yng Ngholeg y Barri hefyd yn astudio BTEC Gwyddoniaeth Gymhwysol.