Bioleg

Lefel: Uwch Gyfrannol a Safon Uwch

Bwrdd Arholi: CBAC

Pam astudio Bioleg?

Os ydych chi yn mwynhau astudio am sut mae’r corff yn gweithio ac am organebau byw a’u lle yn yr amgylchfyd eleni, yna bydd y cwrs hwn yn sicr o apelio atoch. Yn draddodiadol, mae astudio Bioleg ym mlwyddyn 12 a 13 yn boblogaidd, nid yn unig gan fyfyrwyr sydd am yrfa mewn maes iechyd neu’r amgylchedd. Dylai’r rhai sydd yn ystyried astudio’r pwnc yn y Brifysgol, hefyd ystyried Cemeg ar gyfer Safon Uwch.

Gofynion Mynediad

Bydd disgwyl i chi fod wedi llwyddo i gael o leiaf gradd B mewn Gwyddoniaeth a Gwyddoniaeth Ychwanegol neu mewn Bioleg.

Beth yw cynnwys y cwrs?

Byddwch yn astudio tair uned ar gyfer Safon Uwch Gyfrannol ym mlwyddyn 12:

BY1.    Cysyniadau Sylfaenol a threfniadaeth
BY2.    Addasiadau a ffisioleg Systemau’r Corff
BY3.    Aseiniad Ymarferol

Yna bydd tair uned ar gyfer Safon Uwch ym mlwyddyn 13:

BY4.    Metabolaeth, Microbioleg a Homeostasis
BY5.    A. Amrywiaeth, Geneteg ac Esblygiad
            B. Asesiad Synoptig
BY6.    Asesiad Ymarferol
            Asesiad Ymarferol Synoptig

Mae’r rhan helaeth o’r addysgu wedi ei seilio ar drafodaeth ar sut mae organebau penodol a’r systemau o fewn yr organebau hynny yn gweithio. Byddwch yn dysgu sut i gymhwyso egwyddorion Biolegol mewn amrediad eang o sefyllfaoedd. Cynhelir gwaith ymarferol yn rheolaidd trwy gydol y cwrs a defnyddir hyn fel sail i drafodaethau a datrus probemau. Cewch eich annog i ddefnyddio’r adnoddau yn y llyfrgell megis y gwerslyfrau, y cylchgronnau a defnyddio’r cyfoeth o wybodaeth sydd ar y rhyngrwyd.

Beth yw strwythur y cwrs?

 % Lefel UG
% Lefel U
BY1. Cysyniadau Sylfaenol a threfniadaeth
 35%20%
BY2. Addasiadau a ffisioleg Systemau’r Corff
 35% 20%
BY3. Asesiad Ymarferol
 30% 10%
Cyfanswm
 100% 50%
 
BY4. Metabolaeth, Microbioleg a Homeostasis
 20%
BY5. A Amrywiaeth, Geneteg ac Esblygiad
         B Asesiad Synoptig
 20%
BY6. Asesiad Ymarferol, Sesiwn Ymarferol Synoptig
 10%
Cyfanswm
 100%

Gyrfaoedd Posib

Mae Bioleg hefyd yn addas i fyfyrwyr sydd ddim am ddilyn gyrfa wyddonol a gall gael ei gyfuno a diddordebau eraill. Mae cymhwyster mewn Bioleg yn gallu arwain at nifer helaeth o yrfaoedd megis Biotechnoleg, Cadwraeth, Deintyddiaeth, Addysg, Meddygaeth, Nyrsio, Fferyllaeth, Ffisiotherapi, Seicoleg, Chwaraeon a Ffitrwydd, Gwyddorau Fforensig a’r Gwyddorau Milfeddygol.