Tystysgrif a Diploma Cyfrannol - Lefel 3
Bwrdd Arholi: EDEXCEL
Pam astudio BTEC Chwaraeon?
Cwrs cyffrous i unrhyw un sydd â diddordeb mewn Addysg Gorfforol a Chwaraeon i ddatblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau mewn ystod o weithgareddau corfforol.
Ceir cyfle i wella perfformiad mewn dewis o weithgareddau, drwy waith ymarferol yn ogystal â astudiaeth o’r holl agweddau sy’n arwain at wella perfformiad. Ceir hefyd gyfle i gyfarwyddo gyda’r amryw o weithdrefnau a sgiliau hyfforddi ac arwain yn ogystal a materion iechyd a diogelwch. Mae dilyn y cwrs yma yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd swyddi e.e. hyfforddi, dysgu, rheolaeth hamdden a chwaraeon, ac amryw o ardaloedd gwahanol o fywyd chwaraeon a hamdden.
Gofynion Mynediad
Dylech lwyddo i ennill gradd C neu’n uwch mewn Addysg Gorfforol ar lefel TGAU.
Beth yw cynnwys y cwrs?
Yn y flwyddyn gyntaf (Bl.12) fe fydd angen cwblhau tair uned ac yn yr ail flwyddyn (Bl.13) fydd angen cwbwlhau pedair uned arall sy’n arwain at gymhwyster BTEC Lefel 3 Diploma Cyfranol mewn Chwaraeon. Mae’r Diploma Cyfrannol yn gymesur ag un Safon Uwch o ran pwyntiau UCAS.
Dylech ennill gradd C neu’n uwch yn TGAU Addysg Gorfforol. Mae’n bosib hefyd i fyfyrwyr ail ymafael yn y pwnc os nad ydynt wedi ei astudio yn TGAU. Ystyrir pob cais yn unigol.
Mae sgiliau allweddol yn rhan annatod o astudio BTEC Chwaraeon gyda nifer o gyfleoedd i’w defnyddio a’u hasesu. e.e. cyfathrebu, datrys problemau, gweithio gydag eraill, gwella dysgu a pherfformiad.
Beth yw strwythur y cwrs?
Blwyddyn 1 (Bl 12)
Uned 1: Egwyddorion Anatomeg a Ffisioleg Mewn Chwaraeon
Uned 2: Ffisioleg Mewn Ffitrwydd
Uned 3: Asesiad Risg mewn Chwaraeon
Blwyddyn 2 (Bl 13)
Uned 4: Profion Ffitrwydd Mewn Chwaraeon ac Ymarfer
Uned 5: Ymarferol Tîm Chwaraeon / Ymarferol Tîm Unigol
Uned 6: Arweiniaeth mewn Chwaraeon
Uned 7: Seicoleg Mewn Perfformiad Chwaraeon
Asesu
Asesir pob uned ar sail portffolio.
Gyrfaoedd Posib
Mae’r BTEC Cenedlaethol mewn Chwaraeon yn cynnig cyfleodd i ddysgwyr gael mynediad i gyflogaeth yn y sector chwaraeon neu hamdden actif, neu i ddilyn cwrs addysg uwch galwedicaethol fel y BTEC Cenedlaethol Uwch mewn Chwaraeon.