BTEC Gwyddoniaeth Gymhwysol

BTEC Lefel 2 Tystysgrif Estynedig

Bwrdd Arholi: EDEXCEL

Mae’r cwrs BTEC yn gwrs ymarferol gwyddoniaeth gyda phwyslais ar ddefnydd Gwyddoniaeth ym mywyd pob dydd a mewn diwydiant. Nid oes yr un arholiad, mae’r holl asesu yn digwydd trwy fodd gwaith portffolio gyda amrywiaeth eang o ffyrdd o gyflwyno gwybodaeth a dealltwriaeth y disgybl.

Mae’r cwrs yn gymesur â 2 TGAU A* - C.

Gweler yr atodiad gan y bwrdd arholi EDEXCEL am ragor o wybodaeth am y cwrs BTEC Lefel 2: Gwyddoniaeth Gymhwysol (Tystysgrif Estynedig).

Bydd pob disgybl sy’n astudio’r BTEC Gwyddoniaeth Gymhwysol hefyd yn astudio naill ai’r Fagloriaeth Gymraeg neu gwrs yng Ngholeg y Barri.

BTEC - Atodiad Bwrdd Arholi Edexcel