Deunyddiau Gwrthiannol

Amcanion

Mae'r term Deunyddiau Gwrthiannol yn cyfeirio at y deunyddiau cyffredin fel metel, plastig a phren a ddefnyddir i greu mwyafrif y cynhyrchion ac adeileddau ein byd modern.  Bydd y cwrs hwn yn eich dysgu am eu priodweddau a'u defnydd ymarferol yn ogystal â'r prosesau angenrheidiol fel triniaeth wres, siapio ac ail-ffurfio.  Fe fyddwch yn gweithio gydag amrywiaeth eang o ddeunyddiau er mwyn dylunio a gwneud cynhyrchion ymarferol sy'n cwrdd ag anghenion sefyllfaoedd dylunio realistig.

Dyma gyfle i ddatblygu'r wybodaeth a dealltwriaeth i'ch galluogi i ddilyn gyrfa fel dylunydd neu beiriannydd.

A ydych chi'n mwynhau :

  • creu eich cynhyrchion eich hunan gan ddefnyddio deunyddiau fel plastig, metel a phren?
  • dylunio o'r syniad gwreiddiol hyd at ddatrysiad terfynol?
  • gweithio gydag offer llaw, peiriannau ac offer cyfrifiadurol?
  • gweithio gyda meddalwedd dylunio fel 'ProDesk Top' a '2D Design'?

Os felly, DEUNYDDIAU GWRTHIANNOL yw'r dewis i chi

Manylion y Cwrs

Yn ystod Blwyddyn 10 fe fyddwch yn mynd i’r afael â chyfres o brosiectau a thasgau byr er mwyn estyn eich dealltwriaeth a phrofiad ym mhrif-feysydd y cwrs, sef:

  • gweithio gyda metelau
  • gweithio gyda phlastigion
  • gweithio gyda phren naturiol a chyfansawdd
  • dylunio â chymorth cyfrifiadaur/gweithgynhyrchu  â chymorth cyfrifiadur (CAD/CAM)

Fe fyddwch yn dylunio a gwneud eich cynhyrchion eich hunan yn ogystal â defnyddio CAD/CAM er mwyn modelu a gweithgynhyrchu cynhyrchion o safon.  Fe fyddwch yn ymestyn eich gwybodaeth a gallu i ddefnyddio meddalwedd bwrpasol fel 'ProDesk Top' a '2D Design'.

Y dasg asesu Deunyddiau Gwrthiannol fydd prif ffocws blwyddyn 11, sef cynnyrch ymarferol a phortffolio dylunio i'w gyflwyno ar bapur neu drwy ddefnydd o Dechnoleg Gwybodaeth.  Gall themau addas ar gyfer datblygu cynnyrch gynnwys gemwaith, dyluniadau dodrefn, gemau addysgiadol, cymhorthion ar gyfer yr anabl neu systemau storio.

Asesu

Bydd y cynllun asesu yn cynnwys dwy gydran:

  1. Asesiad dan Reolaeth (60%) - tasg asesu dylunio a gwneud i gynnwys cynnyrch tri dimensiwn a phortffolio dylunio (30 awr).
  2. Papur Ysgrifenedig 2 awr (40%) - bydd gofyn i’r ymgeiswyr eistedd arholiad dwy awr o hyd (wedi’i rannu’n ddwy adran), a gaiff ei osod a’i farcio gan CBAC.
Mae’r asesu ar gyfer Defnyddiau Gwrthiannol TGAU yn ddi-haen, h.y. mae’r holl gydrannau/unedau’n darparu ar gyfer yr ystod lawn o allu ac yn rhoi cyfle i’r ymgeiswyr ennill graddau A*-G am y pwnc.