Gofal Plant

Lefel: 2        Bwrdd Arholi: CACHE

Pam astudio Gofal Plant?

Darpara’r cwrs y wybodaeth sylfaenol ar theori gofal plant cymhwyster ymarferol o fewn amrediad o sefyllfaoedd gofal plant gan weithio gyda phlant o 0 – 8 blwydd oed. 
Yn ddelfrydol dylech ennill 2 TGAU, graddau A* - C. Serch hynny, ystyrir pob ymgeisydd yn unigol gan mai’r rhinweddau personol megis cyfrifoldeb a gofal sy’n hanfodol ar gyfer llwyddiant yn y cwrs yma.

Beth yw cynnwys y cwrs?

Cymera myfyrwyr ran mewn amrediad o brofiadau gwaith gofal plant. Mae’r cymhwyster yn caniàtau i fyfyrwyr ymgymryd â gwaith mewn meithrinfa, grwp chwarae neu fel mamaeth.
Darperir y cwrs Yng Ngholeg y Barri, trwy gyfrwng y Gymraeg, yn ystod 8 awr o oriau dysgu yr wythnos.