O Homer i Harri Potter

 
Yn dilyn llwyddiant y llynedd mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnig y Cwrs Aur ‘O Homer i Harri Potter’ i ddisgyblion Bl.12. Bydd Wil Owen, Charlotte Richards, Nia Spilsbury a Bethany Hawkins yn mynychu seminarau ar y clasuron o dan arweiniad Dr Mererid Hopwood cyn mynd ati i gwblhau aseiniadau i’w hachredu gan y brifysgol.