Amcanion
Mae’r maes penodol hwn yn ymwneud â dylunio a gwneud cynhyrchion dyfeisgar sy’n adlewyrchu datblygiadau yn y diwydiant Tecstilau.
Ydych chi’n mwynhau:
- dylunio a chreu chynhyrchion eich hunain megis dillad neu ddodrefn meddal?
- Meddwl am anghenion cleientiaid wrth ddatrys problemau?
- Diddori mewn creu cynhyrchion sydd yn hollol unigryw a gwahanol?
- Oes genych ddiddordeb yn y byd ffasiwn?
Os felly, dyma’r cwrs i chi!!Manylion y Cwrs
Ar ddechrau’r flwyddyn byddwch yn cael cyfle i weithio ar gyfres o brosiectau er mwyn cael ymarfer a datblygu eich sgiliau. Yna, cewch ddewis o amrywiaeth o gwestiynau gwahanol fel sail i’ch prif brosiect. Bydd disgwyl ichi cyfuno sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth er mwyn dylunio a gwneud cynhyrchion o safon uchel drwy:
- Ddadansoddi’r briff dylunio
- Creu manyleb yn nodi’r meini prawf
- Dadansoddi cynhyrchion sydd ar y farchnad
- Defnyddio amrywiaeth o ffynonellau er mwyn ymchwilio i’r maes
- Defnyddio cyfryngau gwahanol er mwyn arddangos syniadau
- Dangos gallu i ddadansoddi a gwerthuso’r syniadau hyn mewn ffordd aeddfed
- Defnyddio technegau a sgiliau ymarferol cryf er mwyn cynhyrchu’r syniad terfynol.
- Fod yn hyderus i ddefnyddio TGCh.
- Deall y materion moesol, diwylliannol ac amgylcheddol sydd ynghlwm wrth ddylunio a thechnoleg
- Ystyried materion amgylcheddol
Asesu
Bydd y cynllun asesu yn cynnwys dwy gydran :
- Asesiad dan Reolaeth (60%) - tasg asesu dylunio a gwneud i gynnwys cynnyrch tri dimensiwn a phortffolio dylunio (30 awr).
- Papur Ysgrifenedig 2 awr (40%) - bydd gofyn i’r ymgeiswyr eistedd arholiad dwy awr o hyd (wedi’i rannu’n ddwy adran), a gaiff ei osod a’i farcio gan CBAC.
Mae’r asesu ar gyfer Tecstilau TGAU yn ddi-haen, h.y. mae’r holl gydrannau/unedau’n darparu ar gyfer yr ystod lawn o allu ac yn rhoi cyfle i’r ymgeiswyr ennill graddau A*-G am y pwnc.