Daeth y tîm siarad cyhoeddus hŷn yn ail yn y gystadleuaeth leol. Trafodwyd y thema ‘Gwerthoedd coll y Gemau Olympaidd hynafol’, gan Leah Robinson (cadeirydd), Dafydd George (siaradwr) a Robin Tait (cynigydd y diolch). Gwnaeth yr awgrym bod cystadleuwyr yn cystadlu’n noeth wneud i’r beirniad chwerthin. Edrychwn ymlaen at weld sut mae’r tîm talentog yma’n datblygu dros y blynyddoedd nesaf.